David Tom LloydDAVIESYn dawel ar ddydd Mercher Rhagfyr 10fed 2025 yn Ysbyty Glangwili hunodd Dewi, Glynteg, Teras yr Orsaf, Llanybydder yn 87 mlwydd oed. Priod hoff Bet, tad cefnogol Delyth a'r diweddar Emyr, tad yng nghyfraith parchus Tegwyn, tadcu hoffus Elin, Rhodri a Katherine, hen dad-cu Osian ac Ollie. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus yng Nghapel Aberduar, Llanybydder dydd Llun, Rhagfyr 29ain 2025 am 11.30 o'r gloch ac i ddilyn yn breifat yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth. Dim blodau. Derbynnir cyfraniadau er cof am Dewi os dymunir tuag at Ffrindiau Ambiwlans Llanbedr Pont Steffan ac adnoddau i CCU Ysbyty Glangwili. (Sieciau yn daladwy i Cenfil Reeves a'i Fab Donation Account). trwy Law Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul, Ceredigion. SA44 4XB Ffôn 01545 590254
Keep me informed of updates